Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA143
Teitl: Gorchymyn Cadw Mincod (Gwahardd) (Cymru) 2012
Mae’r Gorchymyn hwn, drwy arfer y pŵer a roddwyd gan adran 10 o Ddeddf Anifeiliaid Dinistriol a Fewnforir 1932, yn gwahardd cadw mincod yng Nghymru.
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Materion Technegol: Craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn ar hyn o bryd.
Rhinweddau: Craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn ar y cam hwn:-
· dirymwyd y Gorchymyn blaenorol, yn gwahardd cadw mincod, yn 2004 o ganlyniad i amryfusedd gweinyddol. Felly, ni fu’r gwaharddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn ceisio ei gyflwyno mewn grym am tua wyth mlynedd;
· nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw geisiadau i ganiatáu i fincod gael eu cadw yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac nid yw’n rhagweld y bydd cyflwyno’r Gorchymyn hwn yn effeithio ar unrhyw grwpiau yng Nghymru;
· ni fu ymgynghori ar y cynnig hwn a honnir na fu unrhyw ddiddordeb cyhoeddus yn y mater yn ystod y pum mlynedd diwethaf;
· y prif gyfiawnhad dros gyflwyno’r Gorchymyn hwn yw oherwydd gallai peidio â gwneud hynny danseilio’r ymdrechion i gael gwared ar fincod o ardaloedd penodol neu’r effaith gadarnhaol y mae’r gystadleuaeth rhwng mincod a dyfrgwn yn ei gael ar niferoedd y mincod a’u dosbarthiad.
Mae’r Pwyllgor yn pryderu ynghylch yr hyn a ganlyn:
· ni ddarparwyd unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r rheswm dros gyflwyno’r Gorchymyn. Ymhellach, mae’r dystiolaeth sydd ar gael (ar effaith ymarferol y ffaith na fu gwaharddiad am yr wyth mlynedd diwethaf) yn awgrymu bod amheuaeth os oes angen y Gorchymyn yn awr.
· mae’r Gorchymyn yn cael ei gyflwyno i reoleiddio amryfusedd gweinyddol yn unig yr ymddengys na chafodd unrhyw effaith ymarferol am o leiaf bum mlynedd (wyth o bosibl).
Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.3 yn nodi:
· bod y mater yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad;
· y gallai’r Gorchymyn arfaethedig fod yn anaddas yn awr ar sail y ffaith bod yr amgylchiadau wedi newid ers y gwnaed Gorchymyn 2004 sydd bellach wedi’i ddirymu.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mai 2012